Ffilmiau Hammer

The Vampire Lovers (1970)

Roedd cynyrchiadau Ffilm Hammer yn gwmni ffilm Prydeinig a sefydlwyd yn 1934. Daeth yn enwog am ei ffilmiau arswyd a gynhyrchwyd yn y cyfnod rhwng y 1950au a diwedd y 1970au; yn wir daeth ei enw yn gyfystyr â "ffilm arswyd" ym meddwl y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw. Ymhlith yr actorion adnabyddus a actiai'n rheolaidd i Hammer o'r 1960au ymlaen y mae enwau Peter Cushing, Christopher Lee ac Ingrid Pitt yn sefyll allan yn arbennig. Gellid crybwyll yn ogystal Raquel Welch (One Million Years B.C.) a Madeline Smith (er enghraifft yn The Vampire Lovers). Diwedd y chwedegau hyd ddiwedd y saithdegau oedd Oes Aur Hammer ar sawl ystyr. Parhaodd y cwmni i wneud ffilmiau tan ddiwedd y saithdegau pan gafodd ei roi "i gysgu"; mae'n dal i fodoli serch hynny ac o bryd i'w gilydd sonnir am ei "atgyfodi" unwaith yn rhagor.

Dyma restr o'r ffilmiau a gynhyrchwyd gan stiwdios Hammer.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search